top of page

Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.

Click below to listen to the story.

YG 4 Cymraeg
YG 4 English

Neu darllenwch yr hanes isod.

Or read the story below (scroll down).

Mae Cymru yn gartref i bobl o bob cwr o'r byd, ac maen nhw wedi dod â'u hieithoedd, eu traddodiadau a'u diwylliannau gyda nhw. Mae'r mwyafrif wedi dewis i ddod yma er mwyn gwneud bywyd gwell iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Mae rhai wedi dianc rhag rhyfel, fel llawer o'r teuluoedd o Syria sy'n byw yma heddiw. Bu eraill yn garcharorion yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi aros ar ôl cael eu rhyddhau, a magu teuluoedd eu hunain.

 

Dros y canrifoedd, daeth llawer o bobl i Gymru drwy borthladdoedd prysur y De. Un o'r prysuraf oedd y porthladd yn Tiger Bay yng Nghaerdydd. Mae'r ardal honno bellach yn gartref i un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf Ewrop, lle daeth morwyr a gweithwyr o wledydd fel Somalia, y Caribî, yr Eidal, Iwerddon, Pacistan a'r Iemen i fyw. Roedd Tiger Bay hefyd yn enwog am ei gerddoriaeth reggae, a thrwy Tiger Bay daeth yn boblogaidd ymysg Cymry Cymraeg hefyd.

 

Fel y daeth cymaint o bobl i Gymru i fyw, yn y gorffennol, gorfodwyd llawer o werin Cymru i adael oherwydd tlodi a chaledi. Gadawsant trwy'r un porthladdoedd i geisio gwneud bywyd gwell iddyn nhw’u hunain mewn lleoedd fel America ac Awstralia. Mae disgynyddion y Cymry hyn yn dychwelyd yn aml i Gymru er mwyn dysgu mwy am eu hanes teuluol.

 

Mae pawb sy'n byw yma heddiw, waeth pa mor wahanol, i gyd yn wynebu'r un dyfodol, a byddwn i gyd yn gweld Cymru'n newid wrth i ni geisio dygymod ag argyfwng yr hinsawdd. Bydd yr argyfwng hwnnw hefyd yn golygu y bydd llawer mwy o ffoaduriaid yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bydd rhai yn troi i Gymru am loches.

 

Bydd y straeon a ddaw gyda nhw yn parhau i wneud Cymru yn wlad gyfoethog ac amrywiol, gyda llawer o hanesion newydd i’w hadrodd, a llawer o leisiau newydd i'w clywed.

Modern Wales is home to people from all over the world, and they have brought their languages, traditions and cultures with them. Most have chosen to come here to make a life for themselves and their families. Some have come to escape conflict, like many of the Syrian families who live here today. Others were kept here as prisoners during the Second World War, but then stayed and had families.

 

During the Industrial Revolution, the busy ports of Wales were exporting coal to the rest of the world, and also attracting sailors and workers from many different places like Somalia, the Caribbean, Italy, Ireland, Norway, Pakistan and the Yemen. One of the busiest was the port in Cardiff, in an area once called Tiger Bay. Now known as Cardiff Bay, this dockland region is home to one of the oldest multicultural communities in Europe.


Many Welsh people also left Wales during this time, from the very same ports that were bringing others from around the world. Often because of poverty and hardship, they emigrated to try and make a better life for themselves in places like North America and Australia. The descendants of these Welsh people often come back to Wales to find out about their family history.

 

All of the people living here today, no matter how different they are, are all facing the same future, and will all see Wales change as we try to adapt to climate change. That crisis will also mean that many more refugees will be forced to leave their homes, and some will turn to Wales looking for refuge in their time of need.

 

The stories they bring with them will continue to make Wales a rich and diverse country, with many different stories and many different voices to tell them.

WG_Funded_land_mono png.png
bottom of page