top of page
Flag%20section_artwork_edited.jpg

Pwy oedd Owain Glyndŵr?

Un o brif arwyr Cymru

Er bod 600 mlynedd wedi mynd heibio ers cyfnod Owain Glyndŵr, mae’n parhau i fod yn un o brif arwyr Cymru. Roedd yn arweinydd naturiol ac yn wladweinydd craff a unodd bobl Cymru a’u harwain yn erbyn rheolaeth Lloegr.


Nid ydym yn sicr pryd na lle y ganed Owain Glyndŵr. Y dyddiadau mwyaf tebygol yw 1349,1354 neu 1359. Y tebycaf yw iddo gael ei eni yng nghartref y teulu yn Sycharth neu, fel mae rhai yn honni, yn Nhrefgarn, Sir Benfro, yng nghartref teulu ei fam.

Roedd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru, hawl oedd yn deillio o’i gysylltiad â’r ddau deulu brenhinol Cymreig arall. Ar ochr ei dad, gallai olrhain ei linach yn ôl at Dywysog Powys yn yr 11eg ganrif, Bleddyn ap Cynfyn. Roedd llinach ei fam yn ymestyn yn ôl i’r un cyfnod, at Rhys ap Tewdwr, Tywysog y Deheubarth.

Yn 1400-01, dechreuodd Owain Glyndŵr ar gwrs a fyddai’n dod yn un o’r cyfnodau mwyaf dramatig yn hanes Cymru. Daeth ei ddadl yn ymwneud â thir cyffredin gyda Barwn Reginald de Grey o Ruthun; a fwynhaodd ffafr brenhinoedd Lloegr, i ben pan gymerodd Owain y pwnc yn ei law ei hunan ac ymosododd ar Rhuthun.

Yr hynny sydd yn arwyddocaol am y digwyddiad yw’r cyflymder a throdd dadl leol rhwng dau arglwydd y mers yn rhyfel danbaid yn erbyn y Goron Seisnig. Rhedodd ddynion anhapus o bob math o fywyd i ymuno ag achos Owain, ac felly dangosodd nad oedd y weledigaeth o Gymru annibynnol wedi marw gyda Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 wedi’r cwbl.

Ystormodd Gwrthryfel Glyndŵr yn ffyrnig am bron ddegawd ac, er gwaethaf buddugoliaethau cynnar syfrdanol a choroni Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1404, drechu byddai’r ymdrech yn y diwedd. Erbyn 1408-09, roedd yr wrthryfel bron drosodd, ac erbyn 1410 ei arweinydd ysbrydoledig ar ffo, ei yrfa a’i enw da yn chwâl, ei gartref a’i deulu wedi’u dinistrio.

Mae’n debyg y treuliodd Owain ei flynyddoedd olaf yn Sir Henffordd, ger maenor ei mab-yng-nghyfraith Syr John Scudamore, ac o bosib fu farw tua 1416. Mae lleoliad ei fedd yn anhysbys.

Pwy oedd Owain Glyndwr?: About
Pwy oedd Owain Glyndwr?: Pro Gallery
bottom of page