Siop Lyfrau'r Senedd-dy
Ym mis Rhagfyr 2021 agorodd Siop Lyfrau’r Senedd-dy, dyma fenter newydd gan Geoff Young & Diane Bailey sydd hefyd yn rhedeg Siop Lyfrau Penrallt a Ffotogaleri y Gofeb ym Machynlleth.
Yn y siop gallwch bori'n hamddenol trwy amrywiaeth eang o lyfrau barddoniaeth a chelf, antholegau, nofelau a llyfrau ffeithiol yn ymwneud ag iaith a diwylliant Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn ogystal â bod yn siop lyfrau, Siop Lyfrau'r Senedd-dy yw cartref swyddogol newydd 'O'r Pedwar Gwynt'.
.
Oriau agor: Ddydd Mercher, Gwener & Sadwrn 10.30y.b - 3.30y.p
Teithiau Tywys
Teithiau Tywys Machynlleth
Mae Machynlleth yn dref hynod ddiddorol ac yn llawn hanes, pensaernïaeth wych, ac wrth gwrs y roedd unwaith yn brifddinas Cymru. Mae'r daith dywys yn cynnwys - Hanes Owain Glyndŵr, adeilad treftadaeth y Senedd-dŷ a thref Machynlleth. Mae rhan fwyaf o'r daith ar y gwastad ond fydd angen esgidiau a dillad addas ar gyfer pob tywydd. Hyd y daith yw 1:30 awr yn dechrau o flaen Senedd-dy Owain Glyndŵr am 9:30yb. Ar gael ar Ddydd Mercher neu ar adegau eraill trwy archebu yn unig. Gostyngiadau i bartïon. Ffoniwch Arfon ar 07426914442.
Ewch i’n tudalen Facebook am fwy o wybodaeth
https://www.facebook.com/TeithiauCerddedDYFIWalkingTours/