Siop Siarad Machynlleth
Canolfan Owain Glyndŵr - Croeso i'r Gymraeg!
Y Siop Siarad yw'r lle delfrydol i ddod i ymarfer eich Cymraeg. Cyfle i unrhyw un nad oes ganddo amser i fynychu cwrs wythnosol strwythuredig i ddysgu geirfa ac ymadroddion defnyddiol yn y Gymraeg. Dysgwch ar cyflymder eich hun.
Am fwy o wybodaeth ewch draw i’n tudalen Facebook.
https://www.facebook.com/siopsiaradmachynlleth/
GWERSI PIANO
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Owain Glyndŵr, yng nghanol Machynlleth, mae Shaun Brown Music Services yn cynnig agwedd greadigol at wersi cerddoriaeth, gyda sylfaen gadarn mewn techneg, wedi’i chyflwyno gyda gwaith byrfyfyr, dysgu ar y cof, chwarae ar y glust ochr yn ochr â repertoire.
Am fwy o fanylion ac i gysylltu ewch i’r wefan
Silence in Sound
(Heddwch mewn Sain)
Canolfan 'Bowlenni Canu' - Addysg, Hyfforddiant a Gwerthiant
Rydym yn cynnig gwasanaeth arbenigol ar gyfer gweithwyr sain, cerddorion a chasglwyr o bedwar ban y byd sy'n chwilio am ‘Bowlenni Canu’ penodol. Mae ein bowlenni hynafol o Nepal yn cael eu dewis yn ofalus ar gyfer eu sain arbennig, cyflwr cain a’i phrinder. Rydym hefyd yn cyflenwi cwsmeriaid ledled y byd gyda 'Gongiau Canu Nepalaidd '.
Rydym yn cynnig gweithdai un i un ac i grwpiau ar gyfer dewis a defnyddio'r ‘Bowlenni Canu’ a’r 'Gongiau Canu Nepalaidd' ar sail pwnc/gwrthrych. Rydym yn ymdrin â’r bowlenni a’r gongiau fel offerynnau cerdd.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni www.silenceinsound.co.uk